Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Categories: Education

Listen to the last episode:

A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth. Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy! ** A Poet in Two Worlds: Richard Hughes of Cefnllanfair As we record our 50th episode, we celebrate the milestone by discussing one of the most interesting poets of the early modern period, Richard Hughes of Cefnllanfair in Llŷn. We note that he was one of several Welsh poets who spent a great deal of time in London in the age of Elizabeth I. Richard Hughes was a footman who served the queen herself, but in addition to spending time in the court in London he also visited his old home frequently, as his poetry demonstrates. Indeed, his work is wonderfully varied, including poetry in both free and strict metres and, as far as themes are concenred, including: courtly love poetry and poems which treat sex in an extremely bawdy manner; poems about life in London and ones about Pen Llŷn (including a lively englyn to the Bardsey Island boat); poems which pay tribute to individuals and ones which satirize other people. And, yes, discussing the poetry of Richard Hughes enabled Richard Wyn Jones to learn an old Welsh word for toilet – cachdy (shit-house)! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, ‘“Ond Mater Merch”: Cywydd Llatai Troseddol Tomos Prys’, Llên Cymru 46 (2023) - Nesta Lloyd (gol.), Ffwtman Hoff: Cerddi Richard Hughes Cefnllanfair (1998). gw. hefyd yr erthygl berthnasol a fydd yn ymddangos yn adran ‘Culture’ Nation.Cymru erbyn diwedd yr wythnos.

Previous episodes

  • 52 - Pennod 50 - Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair 
    Thu, 10 Oct 2024
  • 51 - Pennod 49 - Cariad, Protest ac Ideoleg Mesur: Y Canu Rhydd 
    Thu, 26 Sep 2024
  • 50 - Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America! 
    Thu, 12 Sep 2024
  • 49 - Pennod 48 - Coblyn o Ddadl: Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal 
    Thu, 29 Aug 2024
  • 48 - Pennod 47 - 'Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx 
    Thu, 15 Aug 2024
Show more episodes

More Jamaica education podcasts

More international education podcasts

Choose podcast genre